Amdanom
Mae gan Alan Hughes gefndir o 30 mlynedd o wasanaeth gyda hen Wasanaeth Tân Gwynedd ac yna gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ble cododd i swydd Rheolwr Shifft. Roedd yn cynnal safon uchel iawn o Ddarpariaeth Gwasanaeth a bu’n Swyddog â Gofal mewn argyfyngau dirifedi yn ystod ei yrfa. Mae gan Alan fwy na 31 mlynedd o brofiad mewn Gwasanaeth Tân ac Achub Hedfan ac mae wedi llwyddo i gael hyn drwy dreulio ei amser hamdden yn dysgu Ymladdwyr Tân Meysydd Awyr. Mae ganddo dystysgrif ‘Arolygydd Meysydd Awyr’ yr Awdurdod Hedfan Sifil ac Alan oedd y myfyriwr gorau yn y categori hwn yng Nghanolfan Hyfforddiant Tân yng Ngholeg Teeside yn 2004.
Mae ganddo brofiad helaeth o gynnig cyngor Diogelwch Tân i berchnogion tai preifat yn ogystal ag o hyfforddi staff cartrefi preswyl, diwydiant a masnach. Mae ganddo hefyd gymwysterau hyfforddwr mewn nifer o gyfeiriadau ac mae’n dal tystysgrif Cyflwyniad i Ddysgu gan Brifysgol Cymru, Casnewydd.
Cafodd Fedal Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da ym 1996 a Medal Jiwbilî Aur y Frenhines yn 2003. Mae hefyd wedi derbyn Llythyr Llongyfarch y Prif Swyddog Tân a Chymeradwyaeth yr Heddlu am Ddewrder.
Mae ‘Hyfforddiant Diogelwch Tân Alan Hughes’ yn gyflenwr cymeradwy ar gyfer Fframwaith Cyfun Gwasanaethau Dysgu a Datblygu Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru.
Mae’n Aelod o Ffederasiwn Busnesau Bychain.
-
Hyfforddwr Cofrestredig Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) ar gyfer hyfforddiant achrededig Lefel 1 a 2 mewn Diogelwch Tân
Tystysgrif Addysg i Raddedigion, rhan un, (Cyflwyniad i Ddysgu) -
Aelod o Sefydliad y Peirianwyr Tân
-
Tystysgrif Rheoli Diogelwch y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH).
-
Cymhwyster Cymorth Cyntaf
-
Darparydd hyfforddiant tân cymeradwy’r Awdurdod Hedfan Sifil ar gyfer Meysydd Awyr a Glanfeydd Hofrenyddion Trwyddedig.
-
Arolygydd Meysydd Awyr Categori Is
-
Uwch-ddatgeliad ‘Glan’ gan y Biwro Cofnodion Troseddol.
-
Hyfforddwr Cyfarpar Anadlu
-
Hyfforddwr Rhyddhau Damweiniau Ffordd
Indemniad Atebolrwydd Cyhoeddus o £5,000,000 gyda’r 'This Insurance Company' (Policy Number VB254B07)
Indemniad Proffesiynol o £2,000,000 gyda Chartis Insurance UK Ltd (Rhif Polisi 34020651)
- Cyngor Sir Ynys Môn
- Cyngor Gwynedd
- Siemens Healthcare Diagnostics
- Bond Air Services
- Heddlu Gogledd Cymru
- Cheshire Police Air Operations
- Ambiwlans Awyr Cymru
- Ambiwlans Awyr County
- Ambiwlans Awyr Great Western
- Maes Awyr Caernarfon
- Gwesty’r Celtic Royal
- First Milk
- Anglo Beef Products Ltd
- Harlech Food Services
- POTENS
- Thales Simulation and Training
- Cymdeithas Tai Eryri,
- Tyddyn Môn
- Mudiad Ysgolion Meithrin
- Nifer o Gartrefi Gofal Preswyl a Darparwyr Gofal
Mae saith amcan allweddol ar gyfer darparu gwasanaeth yn ein Datganiad Cenhadaeth er mwyn sicrhau fod ein cleientiaid yn cael gwasanaeth o’r ansawdd gorau, sef:
• Gwasanaeth y gellir ei deilwra yn ôl gofynion cleientiaid unigol
• Staff cymwys a phrofiadol yn darparu gwasanaeth yn broffesiynol
• Safon o wisgo taclus ac addas
• Prydlondeb
• Gwasanaeth dwyieithog
• Gwerth am arian
• Gofal y Cwsmer
Yn gweithio o’n canolfan yng Nghaernarfon, Gwynedd, rydym yn gallu cynnig gwasanaeth i gleientiaid preifat, cyhoeddus a masnachol ledled gogledd a chanolbarth Cymru.
Oherwydd natur y gwasanaethau y mae Diogelwch Tân Alan Hughes yn eu cynnig, bydd staff sy’n addas ar gyfer y digwyddiad yn cael eu cyflogi yn ôl y gofyn. Bydd y rhain:
• Yn rhai y mae Alan yn eu hadnabod yn bersonol ac sydd wedi eu dilysu ganddo.
• Yn gyn aelodau neu’n aelodau presennol y Gwasanaeth Tân ac Achub.
• Yn brofiadol ac yn gymwys yn y math o wasanaeth sy’n cael ei ddarparu.
Saflaeoedd Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Alan Hughes Fire Safety Training
4 Cae’r Eglwys
Rhostryfan
Caernarfon
Gwynedd
LL54 7LQ
Ffôn: 01286 831625
Ffôn Symudol: 07884 005141
E-bost: alan@ahfiresafetytraining.co.uk
Hyfforddwr Cofrestredig |