Hyfforddiant

 

picture
Daeth y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Diogelwch Tân) 2005 i rym ar 1 Hydref 2006. Mae bron i 100 o eitemau o Ddeddfwriaeth Diogelwch Tân blaenorol yn y Gorchymyn. Mae’r ddeddfwriaeth yn gofyn bod Person Cyfrifol yn gweithredu Rhagofalon Tân Cyffredinol i sicrhau diogelwch staff neu bobl sydd un ai ar yr eiddo’n gyfreithiol neu yn agos iawn ato.

 

Y Person Cyfrifol yw’r:
• Person sy’n gyfrifol am eiddo’r busnes
• Cyflogwr
• Person hunan gyflogedig gydag eiddo busnes
• Elusen neu sefydliad gwirfoddol
• Contractwr sydd â rhywfaint o reolaeth dros unrhyw eiddo
Nid yw tai preifat yn cael eu cynnwys oni bai eu bod yn fan gwaith e.e. yn darparu gofal yn y gymuned.
Mae’n rhaid i’r ‘Person Cyfrifol’ ddarparu: “hyfforddiant diogelwch tân digonol”, y mae’n rhaid iddo fod yn “addas, digonol a phriodol” ac mae’n rhaid ei “ailgyflwyno’n rheolaidd”.

picture
Mae ein Cyrsiau Diogelwch Tân yn rhai tua thair i dair awr a hanner o hyd ac yn addas ar gyfer ‘Person Cyfrifol’, ‘Wardeiniaid / Marsialiaid Tân’ a ‘staff’ fel ei gilydd.

 

 


Mae’r sesiynau theori yn trafod y maes llafur canlynol:
• Gorchymyn Diwygio Rheoleiddiol 2005
• Asesiadau Risg
• Dyletswyddau Marsialiau Tân
• Rhwystro Tân
• Cemeg Llosgi
• Dosbarthiadau o Dannau
• Ymddygiad a Datblygiad Tannau
• Dulliau o drosglwyddo gwres
• Dulliau o Ddiffodd
• Diffoddyddion Tân a Chynnyrch Diffodd
• Gweithdrefnau Tân a Gwagio mewn Argyfwng

Mae’r cyflwyniadau ar ‘PowerPoint’, sy’n cynnwys clipiau fideo yn ôl y gofyn ac yn cael eu darparu drwy ddefnyddio gliniadur a thaflunydd.
Mae hyn yn cael ei ddilyn gan sesiwn ymarferol pan fydd y rhai’n bresennol yn defnyddio diffoddyddion tân o’r math sy’n addas ar gyfer eu gweithle i ddiffodd tanau gwirioneddol. Mae’r senarios tân yn cael eu cynnal gan ddefnyddio efelychwyr nwy amgylcheddol dderbyniol i gynnau tân yn ddiogel ac o dan reolaeth. Mae senarios yn cynnwys tân hylif fflamadwy, tân bin / padell a thân monitor teledu / cyfrifiadur. Cynhelir asesiadau risg ar gyfer ‘hyfforddiant poeth’. Mae’n rhaid cael lle clir y tu allan, tua 5 metr wrth 5 metr, megis maes parcio neu iard heb unrhyw ddefnydd sy’n llosgi, ar gyfer yr hyfforddiant uchod.
Gallwn hefyd arolygu ac arsylwi ar Ymarferion Gwagio Tân a chynnig cyngor a gwasanaeth adborth yn ogystal â sefydlu senarios i ychwanegu realiti i’ch ymarferion.
Gallwn deilwra cyrsiau yn ôl anghenion cleientiaid unigol (bydd y gost yn dibynnu ar faint a fydd yn bresennol ac ar gynnwys y cwrs).


Rydym hefyd yn cynnal ‘cyrsiau agored’ ar gyfer cwmnïau a busnesau llai. Bydd y rhain yn cael eu cynnal ‘yn ôl y gofyn’. I gofrestru diddordeb a chael eich staff ar gwrs agored, llanwch y ffurflen ar y we drwy glicio ar y ddolen ‘cysylltu â ni’ ar y brif ddewislen.
Mae prisiau ar gael ar gais.
Mae ein cleientiaid wedi rhoi derbyniad da iawn i’n cyrsiau ymwybyddiaeth tân a gellir gweld peth o’u sylwadau yn yr adran ‘Geirda’.

 

 

 

 

Saflaeoedd Cymdeithasol

| Mwy

Yn yr adran yma:

Hyfforddwr Cofrestredig

Cyswllt

Yr hyn maent yn ddweud

picture“Yn amlwg yn wybodus iawn ynghylch y pwnc yma”.  Pleserus iawn”

- Cleient Criw Awyr HEMS

Dilynwch ni ar Facebook

facebook