Amdanom

pictureMae gan Alan Hughes gefndir o 30 mlynedd o wasanaeth gyda hen Wasanaeth Tân Gwynedd ac yna gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ble cododd i swydd Rheolwr Shifft.  Roedd yn cynnal safon uchel iawn o Ddarpariaeth Gwasanaeth a bu’n Swyddog â Gofal mewn argyfyngau dirifedi yn ystod ei yrfa.  Mae gan Alan fwy na 31 mlynedd o brofiad mewn Gwasanaeth Tân ac Achub Hedfan ac mae wedi llwyddo i gael hyn drwy dreulio ei amser hamdden yn dysgu Ymladdwyr Tân Meysydd Awyr.  Mae ganddo dystysgrif ‘Arolygydd Meysydd Awyr’ yr Awdurdod Hedfan Sifil ac Alan oedd y myfyriwr gorau yn y categori hwn yng Nghanolfan Hyfforddiant Tân yng Ngholeg Teeside yn 2004.  

Mae ganddo brofiad helaeth o gynnig cyngor Diogelwch Tân i berchnogion tai preifat yn ogystal ag o hyfforddi staff cartrefi preswyl, diwydiant a masnach.  Mae ganddo hefyd gymwysterau hyfforddwr mewn nifer o gyfeiriadau ac mae’n dal tystysgrif Cyflwyniad i Ddysgu gan Brifysgol Cymru, Casnewydd.
Cafodd Fedal Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da ym 1996 a Medal Jiwbilî Aur y Frenhines yn 2003.  Mae hefyd wedi derbyn Llythyr Llongyfarch y Prif Swyddog Tân a Chymeradwyaeth yr Heddlu am Ddewrder.
Mae ‘Hyfforddiant Diogelwch Tân Alan Hughes’ yn gyflenwr cymeradwy ar gyfer Fframwaith Cyfun Gwasanaethau Dysgu a Datblygu  Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru.
Mae’n Aelod o Ffederasiwn Busnesau Bychain.

  • Hyfforddwr Cofrestredig Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) ar gyfer hyfforddiant achrededig Lefel 1 a 2 mewn Diogelwch Tân
    Tystysgrif Addysg i Raddedigion, rhan un, (Cyflwyniad i Ddysgu)

  • Aelod o Sefydliad y Peirianwyr Tân

  • Tystysgrif Rheoli Diogelwch y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH).  

  • Cymhwyster Cymorth Cyntaf

  • Darparydd hyfforddiant tân cymeradwy’r Awdurdod Hedfan Sifil ar gyfer Meysydd Awyr a Glanfeydd Hofrenyddion Trwyddedig.

  • Arolygydd Meysydd Awyr Categori Is

  • Uwch-ddatgeliad ‘Glan’ gan y Biwro Cofnodion Troseddol. 

  • Hyfforddwr Cyfarpar Anadlu

  • Hyfforddwr Rhyddhau Damweiniau Ffordd

Indemniad Atebolrwydd Cyhoeddus o £5,000,000 gyda’r 'This Insurance Company' (Policy Number VB254B07)

Indemniad Proffesiynol o £2,000,000 gyda Chartis Insurance UK Ltd (Rhif Polisi 34020651)

- Cyngor Sir Ynys Môn
- Cyngor Gwynedd
- Siemens Healthcare Diagnostics
- Bond Air Services
- Heddlu Gogledd Cymru
- Cheshire Police Air Operations
- Ambiwlans Awyr Cymru
- Ambiwlans Awyr County
- Ambiwlans Awyr Great Western
- Maes Awyr Caernarfon
- Gwesty’r Celtic Royal
- First Milk
- Anglo Beef Products Ltd
- Harlech Food Services
- POTENS
- Thales Simulation and Training
- Cymdeithas Tai Eryri,
- Tyddyn Môn
- Mudiad Ysgolion Meithrin
- Nifer o Gartrefi Gofal Preswyl a Darparwyr Gofal

Mae saith amcan allweddol ar gyfer darparu gwasanaeth yn ein Datganiad Cenhadaeth er mwyn sicrhau fod ein cleientiaid yn cael gwasanaeth o’r ansawdd gorau, sef:
• Gwasanaeth y gellir ei deilwra yn ôl gofynion cleientiaid unigol
• Staff cymwys a phrofiadol yn darparu gwasanaeth yn broffesiynol
• Safon o wisgo taclus ac addas
• Prydlondeb
• Gwasanaeth dwyieithog
• Gwerth am arian
• Gofal y Cwsmer

Yn gweithio o’n canolfan yng Nghaernarfon, Gwynedd, rydym yn gallu cynnig gwasanaeth i gleientiaid preifat, cyhoeddus a masnachol ledled gogledd a chanolbarth Cymru.

Oherwydd natur y gwasanaethau y mae Diogelwch Tân Alan Hughes yn eu cynnig, bydd staff sy’n addas ar gyfer y digwyddiad yn cael eu cyflogi yn ôl y gofyn.  Bydd y rhain:
• Yn rhai y mae Alan yn eu hadnabod yn bersonol ac sydd wedi eu dilysu ganddo.
• Yn gyn aelodau neu’n aelodau presennol y Gwasanaeth Tân ac Achub.

• Yn brofiadol ac yn gymwys yn y math o wasanaeth sy’n cael ei ddarparu.

 

 

Saflaeoedd Cymdeithasol

| Mwy

Manylion Cyswllt

Alan Hughes Fire Safety Training
3 Llys Y Garn
Caernarfon
Gwynedd
LL55 2UT
Ffôn: 01286 831625
Ffôn Symudol: 07884 005141
E-bost: alan@ahfiresafetytraining.co.uk

 

Hyfforddwr Cofrestredig

Cyswllt

Yr hyn maent yn ddweud

picture“Dw i wedi hyfforddi gyda chi am flynyddoedd lawer ond mae eich hyfforddiant diweddaraf yn ffordd ragorol o chwarae rôl ymarferol”

- Gweithgareddau Awyr yr Heddlu

Dilynwch ni ar Facebook

facebook